

Evan Jones, sylfaenydd y busnes, a’i ŵyr Derek yn y gweithdy.
Ers sefydlu’r cwmni yn 1905, mae D Jones a’i Fab wedi adeiladu busnes gofalgar a phroffesiynol sy’n gwasanaethu’r gymuned ar draws Ceredigion a thu hwnt. Fel seiri a chrefftwyr profiadol, gallwn ddarparu gwasanaeth pwrpasol, os oes angen.
Anghenion eich teulu chi yw’r blaenoriaeth ac ymdrechwn bob amser i ddarparu gwasanaeth urddasol i’r ymadawedig, yn ôl eich dymuniadau.
Mae gennym ddau gapel gorffwys preifat (Heol y Frenhines, Aberaeron a Manor Peris, Llanon,) gydag ystafell wylio, lle mae croeso i deuluoedd dreulio amser gyda’r ymadawedig.

Emyr Jones, y bedwaredd genhedlaeth, tu allan i Gapel Gorffwys Glan y Môr, Heol y Frenhines, Aberaeron.
Fel aelodau o N.A.F.D. (Cymdeithas Genedlaethol Trefnwyr Angladdau), rydym yn gweithredu o dan côd ymarfer llym.
I ysgafnhau’r baich a’r pryder a ddaw wrth drefnu angladd, gallwn gynnig cynlluniau angladd gan Siarter Aur. Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i chi nodi pob manylyn o’r angladd a thaliadau ymlaen llaw ac mae gennych sicrwydd bod ‘Siarter Aur’ yn delio â chwmnïau annibynnol sydd yn cynnig gwasanaeth o’r lefel uchaf. Cliciwch ar Gynlluniau Angladd am ragor o fanylion.