Beth i’w wneud pan fydd person yn marw

Pan fydd rhywun yn marw, mae’n gyfnod anodd a dryslyd. Mae’n rhaid gwneud nifer o benderfyniadau a threfniadau sydyn o fewn cyfnod byr, gan gynnwys nifer o ofynion a chyfrifoldebau cyfreithiol.

 

Os bydd person yn marw adref

Pe bai’r unigolyn yn dioddef mewn iechyd ac o dan gyfarwyddyd y meddyg teulu, dylid cysylltu yn gyntaf gyda’r meddyg teulu, a fydd yn penderfynu ar yr achos marwolaeth ac yn cyflwyno Tystysgrif Marwolaeth Feddygol. Os bydd y farwolaeth yn sydyn ac yn cael ei gadarnhau fel y cyfryw gan feddyg teulu neu wasanaeth brys, bydd yr heddlu’n cael ei alw ac yn paratoi ffeil i’r crwner lleol. Ar ôl i feddyg roi Tystysgrif Marwolaeth Feddygol, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn galw i gyfleu’r sawl a fu farw unrhyw bryd sy’n gyfleus i chi.  Yna byddwn naill ai’n ymweld â chi yn eich cartref, neu gallwch alw yn ein swyddfa, i drafod trefniadau’r angladd a’ch cynghori ynghylch y gweithdrefnau cofrestru.

Os bydd person yn marw mewn Cartref Nyrsio

Bydd uwch aelod o staff y Cartref Nyrsio yn cysylltu â’r perthynas agosaf a fydd wedyn yn cysylltu â’r Trefnwr Angladdau. Wedyn byddwn yn trefnu i gyfleu’r ymadawedig i’n Capel Gorffwys. Byddwn naill ai’n ymweld â chi yn eich cartref, neu gallwch ddod i’n swyddfa, i drafod trefniadau’r angladd ac er mwyn i ni gynghori chi  ynghylch gweithdrefnau cofrestru.

Os bydd person yn marw yn yr ysbyty

Bydd staff nyrsio y ward yn cysylltu â’r perthynas agosaf. Yna, mae rhwydd hynt i chi gysylltu â’r Trefnwr Angladdau o’ch dewis.  Bydd yr ysbyty yn rhoi Tystysgrif Marwolaeth Feddygol i chi a bydd angen i chi gyflwyno hwn i’r Cofrestrydd er mwyn cael tystysgrif (ffurflen werdd) sy’n rhoi caniatad swyddogol i’r ysbyty ryddhau y corff. Bydd angen i chi roi’r ffurflen werdd yma i’r trefnwr Angladdau  er mwyn iddynt allu symud y corff o’r corffdy yn yr ysbyty (mortuary) i naill ai un o’r capeli gorffwys neu i gartref yr yamadawedig, yn ôl eich dewis.

 

Os bydd person yn marw dramor

Os bydd person yn marw dramor, dylech gysylltu â’r heddlu lleol yn gyntaf a fydd yn cyfeirio at y Conswlaidd Prydeinig agosaf, ac yna gellir gwneud trefniadau ar gyfer claddu neu ail-ddychwelyd. Cyhoeddir Tystysgrif Marwolaeth lleol a rhaid dilyn pob deddf yngyd â gweithdrefnau rhanbarthol. Os yw’r marwolaeth yn sydyn, yn anhysbys neu’n amheus, fe’i cyfeirir at grwner a fydd yn ymchwilio i’r amgylchiadau ac achos y farwolaeth, cyn rhoi tystysgrif i ganiatáu i’r farwolaeth gael ei gofrestru.

Gweithdrefnau Cofrestru

1  Rhaid cofrestru’r farwolaeth yn yr ardal lle bu farw, o fewn 5 diwrnod. Dylid cyflwyno’r Tystysgrif Marwolaeth (a gafwyd gan y Meddyg) i Swyddfa’r Cofrestrydd gydag, os yn bosibl, Cerdyn Meddygol a Thystysgrif Geni yr Ymadawedig. Rhaid gwneud apwyntiad i fynychu’r cofrestrydd lle bydd angen y wybodaeth ganlynol:

2  Bydd y Gofrestrydd angen:

  • Tystysgrif Marwolaeth
  • Dyddiad marwolaeth
  • Enw llawn a’r cyfenw (a’r cyfenw morwynol pe bai’r ymadawedig yn fenyw a oedd wedi bod yn briod)
  • Cerdyn Meddygol neu rif GIG
  • Dyddiad geni a man geni
  • Galwedigaeth ddiwethaf
  • Ei cyfeiriad arferol
  • A oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn neu lwfans o arian cyhoeddus.
  • Os oedd yr ymadawedig yn briod, dyddiad geni’r weddw sydd wedi goroesi.

3  Yn gyfnewid, bydd y Cofrestrydd yn cyhoeddi

  •   FFURFLEN WERDD sydd ei angen gennym er mwyn rhyddhau’r corff o’r ysbyty;
  •   Ffurflen Wen i ddileu pensiwn y wladwriaeth a
  •   Chopïau o’r Tystysgrif Marwolaeth yn ôl yr angen

4  Os cyfeirir y farwolaeth at y Crwner, byddai’n ddoeth i chi gysylltu â ni fel y gellir gwneud trefniadau dros dro cyn i’r Crwner roi caniatâd i’r cofrestriad a’r angladd ddigwydd.

 

Manor Peris
Stryd Fawr
Llanon
Ceredigion
SY23 5HJ

Ffôn: 01974 202208
Symudol: 07802 200595 / 07971 803783

Capel Gorffwys Glan y Môr
Stryd y Frenhines
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0BY

Ffôn: 01545 570985
Symudol: 07802 200595