
Gyda dros 100 mlynedd o brofiad, gallwn drefnu yr angladd yn ôl eich dymuniadau, gan roi amser a chyfle i chi alaru.
Rydym yn cynnig gwasanaethau angladd llawn gan gynnwys:
- Cynllunio angladd
- Cysylltu â gweinidogion / clerigwyr / organwyr
- Ceir angladd
- Capel Gorffwys Ymroddedig
- Triniaeth lanwaith a phêr-eneiniad (‘embalming’)
- Hysbysiadau marwolaeth
- Derbyn a threfnu teyrngedau blodau
- Argraffu taflenni gwasanaeth, gyda’ch dewis o emynau
- Casglu rhoddion
- Cynghori ar drefniadau arlwyo
- Cyngor ac arweiniad am ddim


